Jump to content

Telerau ac Amodau

Defnydd a Ganiateir

Caiff ymwelwyr ag Uned Atal Trais Cymru (y wefan hon) ganiatâd i weld deunyddiau sydd wedi'u cyhoeddi (cynnwys) yn amodol ar y telerau hyn. Drwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn cytuno i fod yn rhwym wrth y telerau o ran ei defnydd.

Er y gall cynnwys gael ei weld, ei lawrlwytho a'i ddefnyddio at ddibenion personol ac anfasnachol (e.e. ymchwil breifat, astudio neu ddefnydd mewnol); ni chaiff ymwelwyr atgynhyrchu nac ailgyhoeddi unrhyw ddeunydd o'r wefan hon heb ganiatâd perchennog y wefan / hawlfraint.

Rydych yn cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol sy'n gysylltiedig â'r wefan hon yn eiddo i Uned Atal Trais Cymru a, lle y bo'n gymwys, drydydd partïon.

Atal Feirysau

Rydym yn gwneud ein gorau glas i archwilio a phrofi deunydd am feirysau. Fodd bynnag, dylech redeg rhaglen atal feirysau ar unrhyw ddeunydd a gaiff ei lawrlwytho o'r we. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amharu na difrod i'ch data na'ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd o'r wefan hon.

Ymwadiad

Cymerir gofal i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Serch hynny, darperir cynnwys er gwybodaeth gyffredinol yn unig, ac rydych yn ei ddefnyddio ar eich menter eich hun. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw ddifrod na cholled sy'n deillio o unrhyw weithred na hepgoriad yn sgil defnyddio gwybodaeth o'r wefan hon.

Defnydd o Gwcis

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i fonitro dewisiadau pori. Os byddwch yn caniatáu i gwcis gael eu defnyddio, mae'n bosibl y bydd y wybodaeth bersonol ganlynol yn cael ei storio gennym:

Google Analytics

Rydym yn defnyddio Google Analytics i gasglu data dienw am bobl sy'n ymweld â'n gwefan.

Cliciwch yma i gael trosolwg o breifatrwydd yn Google

Os byddwch yn cofrestru i gael gwybodaeth gennym, byddwn yn anfon y wybodaeth drwy MailChimp. Mae MailChimp yn casglu rhywfaint o ddata gennych:

Ymgyrchoedd e-byst i aelodau
Rydym yn rhoi gifs picsel unigol, sydd hefyd yn cael eu galw'n begynau gwe, ym mhob e-bost a anfonir gan ein Haelodau. Mae'r rhain yn ffeiliau graffig bach iawn sy'n cynnwys dynodyddion unigryw sy'n ein galluogi ni a'n Haelodau i nodi pryd mae eu Cysylltiadau wedi agor e-bost neu glicio ar ddolenni penodol. Mae'r technolegau hyn yn cofnodi cyfeiriad e-bost, cyfeiriad IP, dyddiad ac amser sy'n gysylltiedig â phob achos o agor a chlicio ar gyfer ymgyrch i bob Cysylltiad. Rydym yn defnyddio'r data hyn i greu adroddiadau i'n Haelodau am sut y gwnaeth ymgyrch e-bost berfformio a pha gamau y gwnaeth Cysylltiadau eu cymryd.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch bolisi cwcis MailChimp.

Gwefannau Allanol

Nid yw Uned Atal Trais Cymru yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau y ceir dolenni iddynt. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am gynnwys gwefannau o'r fath, na chanlyniadau dilyn unrhyw gyngor arnynt.

Ni ddylai'r ffaith eu bod wedi'u rhestru gael ei ystyried yn gymeradwyaeth o unrhyw fath.

Ni allwn addo y bydd y dolenni hyn yn gweithio o hyd ac ni allwn reoli argaeledd y tudalennau y ceir dolenni iddynt na newid o ran cyfeiriad gwefan.

Mae Uned Atal Trais Cymru yn cadw'r hawl i wrthod neu ddileu dolenni i unrhyw wefan.

Rydym yn defnyddio cwcis i alluogi nodweddion a darparu data am y defnydd o'r wefan. Ceir manylion yn ein Telerau ac Amodau. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon rydych yn derbyn y defnydd hwn o gwcis.